Datganiad Ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - 6 Gorffennaf 2016

Yn araith y Frenhines ar 18 Mai 2016, cyhoeddwyd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y flwyddyn sydd o'n blaen. Bydd y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno'n rhoi sicrwydd i bobl sy'n gweithio; yn gwella cyfleoedd mewn bywyd i'r rhai sy'n wynebu'r anfanteision mwyaf; ac yn cryfhau diogelwch yn ein gwlad.

Mae'r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys 22 o Fesurau a bydd y Bil Heddlua a Throseddu, y Bil Pwerau Ymchwilio, a'r Bil Cyllid hefyd yn cwblhau eu hynt seneddol yn ystod y sesiwn hon, wedi’u trosglwyddo o'r sesiwn gyntaf. Rhaglen ddeddfwriaethol sydd wedi'i hadeiladu ar sail tri phrif nod yw hwn.

Yn gyntaf, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn rhoi sicrwydd i bobl sy'n gweithio:

Yn ail, rhaglen ddeddfwriaethol a fydd yn gwella cyfleoedd mewn bywyd i'r rhai sy'n wynebu'r anfanteision mwyaf:

Yn drydydd, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n cryfhau diogelwch ein gwlad;

Yn olaf, rydym wedi cyflwyno Bil Cymru i sicrhau setliad datganoli mwy sefydlog i Gymru ac, wrth galon hwnnw, bydd eglurdeb ac atebolrwydd. Bydd y Bil yn darparu model newydd sef model cadw pwerau, a hynny ochr yn ochr â phwerau pwysig newydd ym maes ynni, trafnidiaeth ac etholiadau.

Bydd y Biliau hyn i gyd o fudd uniongyrchol i Gymru.  Dyma'r cam nesaf yn ein cynllun economaidd tymor hir sy'n darparu swyddi a thwf ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys diwygiadau beiddgar i fynd i'r afael â rhai o'r problemau dyfnaf yn ein gwlad, bydd yn chwalu'r pethau hynny sy'n rhwystro cyfleoedd, ac mae'n cydnabod dyletswydd y llywodraeth i gadw ein gwlad yn ddiogel.